Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 9 Ionawr 2017
Amser: 14.00 -
15.51
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Mike Hedges AC Rhianon Passmore AC Lee Waters AC |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Anne Beegan Gillian Body Gareth Jones Matthew Mortlock Dave Thomas |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Pwyllgor.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil McEvoy AC. Ni chafwyd dirprwy ar ei ran.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Trafododd yr Aelodau'r papur a thrafododd yr awgrymiadau sydd ynddo.
3.2 Bydd y Clercod yn paratoi papur pellach ac yn cynnwys enghreifftiau o fodelau gwaith gwahanol er mwyn galluogi'r Aelodau i gael trafodaeth bellach.
4.1 Trafododd yr Aelodau wybodaeth ddiweddaraf Llywodraeth Cymru am fwrw ymlaen â'r argymhellion a geir yn adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2015, a nodwyd fod Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr y GIG, yn mynychu cyfarfod y Pwyllgor ar 23 Ionawr er mwyn archwilio'r wybodaeth ddiweddaraf ymhellach.
4.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Dr Goodall cyn y cyfarfod yn rhoi gwybod iddo am feysydd y mae'r Aelodau wedi mynegi diddordeb yn eu trafod gydag ef.
5.1 Trafododd yr Aelodau wybodaeth ddiweddaraf Llywodraeth Cymru am fwrw ymlaen â'r argymhellion a geir yn adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2015, a nodwyd fod Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr y GIG, yn mynychu cyfarfod y Pwyllgor ar 23 Ionawr er mwyn archwilio'r wybodaeth ddiweddaraf ymhellach.
6.1 Trafododd yr Aelodau'r papur cwmpasu a:
· chytunwyd ar gylch gorchwyl yr ymchwiliad;
· trafodwyd y rhestr awgrymedig o dystion;
· cytunwyd i gynnal ymgynghoriad ysgrifenedig; a
· chytunwyd i gynnal ymgynghoriad ar-lein gydag athrawon a phenaethiaid.
7.1 Trafododd yr Aelodau'r gwaith sydd ar y gweill a nodwyd eu dewis ar gyfer y gwaith hwnnw a geir ym mlaenraglen waith Archwilydd Cyffredinol Cymru a nododd y byddai'r eitem hon yn cael ei thrafod ymhellach yn y cyfarfod ar 16 Ionawr 2017.
8.1 Cytunodd yr Aelodau ar y llythyr drafft a fydd yn cael ei anfon cyn i'r Ysgrifennydd Parhaol newydd ddechrau yn ei swydd ar 6 Chwefror 2017.